Swydd: Cydlynydd Criw Celf Gwynedd a Môn

Swydd: Cydlynydd Criw Celf Gwynedd a Môn

Mae Criw Celf Gwynedd a Môn yn edrych i benodi Cydlynydd Prosiect brwdfrydig a chreadigol i weithio ag Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ac Oriel Môn i gynnal prosiect Criw Celf ar draws y sir. Mae Criw Celf yn gynllun celf weledol sy’n targedu artistiaid mwy abl a thalentog.

Mae ffi o £6,000 ar gael sy’n cynnwys teithio, cynhaliaeth a llety. Mae’r ffi wedi ei gyfrifo ar sail £120 y dydd am 50 diwrnod, mae diwrnod gwaith yn 7.5 awr.

Dyddiad cau ymgeisio: 9am 30/08/2019

Am fanylion pellach cysyllter â Lia Griffith: 01248 752027 / Liagriffith@ynysmon.gov.uk ac am gopi o’r swydd ddisgrifiad llawn cliciwch yma.