Galwad Agored i Artistiaid

Galwad Agored i Artistiaid

Criw Celf Gogledd Cymru – Galwad Agored i Artistiaid

Galwad Agored ar gyfer artistiaid i weithio gyda Criw Celf Gogledd Cymru

Bu i Griw Celf Gogledd Cymru darddu yng Ngwynedd yn 2007 ac mae wedi bod yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers 2012 gan greu’r Bartneriaeth Rhanbarthol celfyddydau gweledol cyntaf sydd yn targedu disgyblion mwy abl a thalentog.

Cynhelir cyfres o chwe gweithdy ar gyfer pob cyfranogwr wedi eu lleoli mewn safleoedd ysbrydoledig ar draws y rhanbarth. Rydym yn chwilio am artistiaid proffesiynol profiadol iawn, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol i gynnal gweithdai yn edrych ar amrywiaeth o dechnegau artistig a gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau. Bydd gan bob sir 3 grŵp Criw Celf yn rhedeg, blwyddyn 5 a 6, blwyddyn 7 ac 8 a blwyddyn 9, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis drwy broses ymgeisio.

Rydym hefyd yn chwilio am artistiaid i gynnal gweithdai fel rhan o’r rhaglen Portffolio, ar gyfer myfyrwyr tgau, ac Chodi’r Bar, ar gyfer myfyrwyr UG a Lefel A.

Mae Criw Celf Gogledd Cymru yn gwahodd artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol i anfon llythyr ‘Datganiad o Ddiddordeb’, dros e-bost, ar gyfer ein rhaglen 2017/18. Dylech gynnwys cynnig ar gyfer dosbarth meistr a pha ddeunyddiau a thechnegau fydd yn cael ei ddefnyddio. Nodwch hefyd pa siroedd yng Ngogledd Cymru ydych yn gwneud cais i weithio ynddynt. Y ffi fesul diwrnod yw £250 yn cynnwys deunyddiau, teithio a chynhaliaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ‘Datganiadau o Ddiddordeb’, yn ogystal a CV cyfredol, yw Awst 31ain 2017.

Mae Criw Celf yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a phob un o’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru.

Anfonwch eich ceisiadau, dros e-bost, at gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk