Ymaelodwch a Criw Celf Bach Gwynedd!

Ymaelodwch a Criw Celf Bach Gwynedd!

Dewch i arbrofi, mwynhau a dysgu!

Clwb celf i blant rhwng 7 a 11 mlwydd oed yw Criw Celf Bach. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i blant i greu celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol yn ystod gweithdai celf rheolaidd. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i arbrofi â deunyddiau celf, technegau a themâu mewn modd chwareus.

Bydd clybiau’n cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

  • Storiel, Bangor Lawrlwythwch Amserlen Bangor (Llawn!)
  • Theatr Ardudwy, Harlech Lawrlwythwch Amserlen Harlech (Llawn!)
  • Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog Lawrlwythwch Amserlen Glyn y Weddw (Llawn!)
  • Neuadd Dyfi, Aberdyfi Lawrlwythwch Amserlen Neuadd Dyfi (Llawn!)

Ffi aelodaeth blynyddol yw £40 am 10 sesiwn 2awr.

I archebu lle lawrlwythwch, cwblhewch a postiwch y ffurflen gofrestru a siec am £40 yn daladwy i “Cyngor Gwynedd” at Criw Celf Bach, Archifdy Caernarfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH.

Mae croeso cynnes i chi argraffu a rhannu ein poster

Cysylltwch â Gwawr am fwy o wybodaeth

01286 679721 / 07789 032517 / gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru