Swydd: Cyfarwyddwr Rhaglen Criw Celf Gwynedd a Môn

Swydd: Cyfarwyddwr Rhaglen Criw Celf Gwynedd a Môn

Mae Criw Celf Gwynedd a Môn yn edrych i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen brwdfrydig a chreadigol i gynnal prosiect Criw Celf ar draws y ddwy sir.

Mae Criw Celf yn deitl ambarél ar gyfer cynllun datblygu artistiaid ifanc Mwy Abl a Thalentog (mat) sy’n cynnwys ‘Criw Celf,’ ‘Portffolio’ a ‘Chodi’r Bar’. Mae Criw Celf yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau celfyddydol gan weithio y tu allan i’r ysgol gyda artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o wahanol orielau a lleoliadau penodol i safle. Cynigir ffi o £7,000 sy’n cynnwys teithio, cynhaliaeth a llety. Gweler y swydd ddisgrifiad am y manylion llawn a dadansoddiad o’r ffi.

Dyddiad cau ymgeisio: 9am 19/07/2017

Mae copi o hysbyseb y swydd ar gael yma.