Criw Celf Wrecsam. 2017 hyd yma...

Criw Celf Wrecsam. 2017 hyd yma...

Ciplun o’r gweithgareddau artistig sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghriw Celf Wrecsam eleni.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cwrs, anfonwch e-bost at Sarah ar criwcelfwrexham@gmail.com

Mwynhaodd Criw Celf Naw, ein grŵp hynaf, ddiwrnod o brintio sgriniau gyda’r artist Tara Dean.
Gan ddechrau â lluniau llinell yn seiliedig ar ffurfiau naturiol, dysgodd Tara’r grŵp sut i haenu eu dyluniadau i greu printiau cywrain a lliwgar. Buont yn arbrofi â phrintiau leino drwy gerfio darnau sbwng a defnyddio inc argraffu i greu eu dyluniadau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan gelf pop.
Roedd y canlyniad yn gasgliad hyfryd o brintiau llachar, rhai wedi’u hysbrydoli gan ffurfiau haniaethol a rhai gan ddarluniau.

Dangosodd Sara-Jane, seramegydd o Wrecsam, y gelf o addurno crochenwaith i’r grŵp Criw Celf Naw. Bu’r grŵp yn astudio gwaith presennol Sara-Jane gan sylwi ar sut mae’n creu llinell lefn a haenu delweddau i greu ei harddull unigryw.
Yna cafodd pob myfyriwr botyn pinsio anwydrog i’w addurno yn eu harddulliau unigryw eu hunain. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonynt roi cynnig ar addurno crochenwaith ac roeddent wedi mwynhau dysgu’r sgil newydd hon.

Dysgodd Criw Celf Naw fwy am hunanbortreadau gan y peintiwr a’r darlunydd, Ellie Williams. Mae gweithdy Ellie, “The Art of the Selfie” yn defnyddio hunanbortreadau i ysbrydoli dysgu; helpu disgyblion i ddysgu am eu hunaniaeth, eu cymdeithas a’u lle ynddi. Roedd y gweithdy hwn yn cefnogi defnyddio portreadau ar draws y cwricwlwm gan ganolbwyntio ar Hanes, Celf, Llythrennedd a Dinasyddiaeth. Ffocws y dydd oedd y syniad nad oes y fath beth â phortread perffaith ac edrychwyd ar sut maen nhw’n gweld eu hunain drwy arbrofi ac uwchlaw holl gyfyngiadau eu dychymyg.

Bydd Criw Celf Naw yn mynd ymlaen i weithio gyda thri artist arall: Heather Wilson, James Story a Sarah Bowker-Jones.

Bydd mwy o ddiweddariadau am Criw Celf Wyth yn dilyn!