GwylGrai'n dod i Llandudno yn 2017

GwylGrai'n dod i Llandudno yn 2017

Yn dilyn yr ŵyl beilot yng Nghasnewydd ym mis Awst 2016, rydym yn llawn cyffro o fod yn cynllunio GŵylGrai’r haf nesaf yn Llandudno. GŵylGrai ydi’r ŵyl gelfyddydau ieuenctid i Gymru, sy’n hwyl, yn arloesol ac yn ddigon o ryfeddod. Fe’i cynllunnir ac fe’i rhaglennir gan bobol ifanc i bobol ifanc.

Mae GŵylGrai yn rhoi stondin i’r gorau o blith y celfyddydau ieuenctid heddiw. Rhown fwy o werth ar y gwreiddiol yn hytrach na’r copi, y cranclyd yn hytrach
na’r cyffredin, y beiddgar yn hytrach na’r diflas.
Rydym wedi cadw rhaglen 2016 ar y wefan am y
tro, felly gallwch weld y dewis anhygoel o eang o
berfformiadau a gweithgareddau roeddem yn eu
llywyddu ym mis Awst y llynedd – a’n bwriad ydi ei
gwneud yn fwy ac yn well fyth yn Llandudno.

Lansiwn ein ‘Galwad Gyntaf am Gyfraniadau’ ym mis
Ionawr 2017. Os ydych chi’n rhywun ifanc 14 – 25 oed,
yn rhiant rhywun ifanc, yn rhedeg cylch celfyddydau
ieuenctid neu fudiad ieuenctid – cofiwch roi 17 – 20
Awst 2017 yn eich dyddiadur!

Am fwy o wybodaeth ymwelwch a’r wefan: www.rawffest.wales

Mae Criw Celf a’n prosiectau partneriaethol Portffolio a Codi’r Bar yn gobeithio gallu cefnogi’r wyl yn 2017. Mwy o fanylion i ddilyn.