Cirw Celf yn gobeithio cydweitho a Artes Mundi yn 2017

Cirw Celf yn gobeithio cydweitho a Artes Mundi yn 2017

Mae Criw Celf mewn trafodaethau a Artes Mundi ynglyn a’r posibliadau o sicrhau mynediad a chyfleoedd dysgu i’n aelodau yng Ngogledd Cymru i’w rhaglenni a’u harddangosfeydd…

Sefydliad celfyddydol a chanddo ffocws rhyngwladol yw Artes Mundi sy’n adnabod, yn cydnabod ac yn cefnogi artistiaid gweledol cyfoes sy’n ymgysylltu â’r cyflwr dynol, realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo.

Artes Mundi yw’r Lladin am ‘gelfyddydau’r byd’, sy’n adlewyrchu ffocws rhyngwladol yr elusen gelfyddydol hon sydd â’i chartref yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw:

“Cyflwyno rhaglen bwysig o gelf weledol gyfoes a rhyngwladol a fydd yn cyfoethogi bywyd diwylliannol ac addysgol Cymru a’i phobl, yn datblygu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd ac yn adeiladu pontydd diwylliannol rhwng Cymru a’r byd ehangach”.

Wedi’i sefydlu yn 2002 gan yr artist o Gymru William Wilkins, mae Artes Mundi’n fwyaf adnabyddus am ei harddangosfa a’i gwobr ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghaerdydd. Dyma sioe celf weledol gyfoes fwyaf cyffrous Cymru. Mae un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn derbyn y wobr o £40,000, y wobr gelf fwyaf yn y DU ac un o’r pwysicaf yn y byd.

Mae ein prosiect dysgu ac allgymorth yn cynnig y cyfle i unigolion a grwpiau brofi, trafod a chyfranogi o gelf gyfoes mewn llawer o wahanol ffyrdd. Yn ystod ein harddangosfeydd eilflwydd rydym yn datblygu ystod gyflawn o ddigwyddiadau, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau y caiff unrhyw un ymuno â nhw.

Rhwng arddangosfeydd, ceir rhaglen barhaus o weithgarwch ac ymchwil. Mae hyn yn ein galluogi i feithrin perthynas ystyrlon â’n cymunedau lleol; i arbrofi ac archwilio ac i ddysgu dulliau newydd o ddehongli a chyfranogi.

Mae cysylltiadau Artes Mundi â’r gymuned gelf ryngwladol yn golygu ei fod mewn sefyllfa gref i gychwyn deialog rhwng artistiaid a’r cymunedau gan agor mynediad i’r celfyddydau gweledol cyfoes a syniadau ac ymarfer artistiaid cyfoes.

Mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan… www.artesmundi@org