Adroddiad Criw Celf Gogledd Cymru 2015/16

Adroddiad Criw Celf Gogledd Cymru 2015/16

Darllennwch am ein gweithgarwch yma…

Dechreuodd Criw Celf Gogledd Cymru ar ei drydedd flwyddyn ym mis Medi 2015, sef blwyddyn olaf cylched ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru (2013-216). Partneriaid y prosiect oedd Cynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Swyddogion Datblygu Celf (neu gyffelyb) o bob sir oedd yn gyfrifol am ddarparu gweithgareddau’r Criw Celf yn eu sir eu hunain; gyda Gwynedd yn gweithredu fel yr Arweinydd Prosiect Rhanbarthol.

Anelwyd y prosiect, ar y cyfan, at ddisgyblion CA3; a sefydlwyd tair carfan Criw Celf ymhob sir a rhaglen o chwe dosbarth meistr i bob grŵp. Roedd peth amrywiath mewn oedrannau a strwythurau’r prosiectau ledled y rhanbarth oedd yn ymateb i flaenoriaethau a phatrymau gwaith lleol.

Roedd pob Awdurdod Lleol (ALl) yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol ac fe’i cynhaliwyd mewn cyrchfannau difyr ledled y rhanbarth. Cynhaliwyd cyfanswm o 164 dosbarth meistr gan 68 artist ar gyfer 216 cyfranogwr yng ngogledd Cymru. Roedd y rhaglen yn cynnig 479 awr o waith i artistiaid yng ngogledd Cymru a llwyddasom i osod pum arddangosfa o waith ein haelodau, trefnwyd pum ymweliad stiwdio, a 19 ymweliad ag orielau.

Cysylltodd pob cynrychiolydd sir â’r ysgolion yn eu ALl eu hunain. Cysylltwyd yn uniongyrchol dros y ffôn, trwy’r post ac e-bost. Anfonasom bamffledi a chyhoeddasom ddatganiadau i’r wasg, yn ogystal â defnyddio ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r Criw Celf i gynulleidfa ehangach. Ledled y rhanbarth, derbyniasom 170+ cais (does dim cofnod gan Ynys Môn) oedd wedyn yn cael eu hasesu a’u dethol gan baneli o artistiaid. Gwnaed ymdrech i gysylltu ag ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf trwy gysylltu ag ysgolion perthnasol a Swyddogion ym mhob ALl. Bu’n anos i rai siroedd ricriwtio nag eraill; nododd rhai bod cyfathrebu gydag ysgolion a sicrhau enwebiadau wedi bod yn her. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf pan fyddwn yn cyflwyno cyfres o Ddyddiau Agored Creadigol i hyrwyddo a chodi proffil y Criw Celf; y gobaith yw y bydd hyn yn gwella’r broses recriwtio ac yn cynyddu ymwybyddiaeth.

Dyfeisiodd y Criw Celf raglen gyffrous ac eang o ddosbarthiadau meistr oedd yn cynnwys cerflunio, paentio, darlunio, gemwaith, celf amgylcheddol, darluniadu, animeiddio, mewnosodiad, gwaith gwydr, cerameg, argraffu, a gwehyddu, er enghraifft. Roedd rhai digwyddiadau arbennig wedi eu cynnwys yn ychwanegol megis sesiynau darlunio goruchwyliol arbennig yn Sir Ddinbych, ble roedd cyfranogwyr yn medru arsyllu a darlunio ymarfer dawns, gan ddatblygu sgiliau mewn darlunio bywyd a symudiad.

Mae ein rhaglen wedi golygu gweithio’n agos gydag artistiaid proffesiynol, sefydliadau celfyddydol a chyrchfannau. Mae orielau megis Storiel, Oriel Môn, Oriel Wrecsam a Chanolfan Grefft Rhuthun oll yn enghreifftiau. Mae partneriaid sydd ddim yn ymwneud â’r celfyddydau, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parc Cenedlaethol Eryri, ble defnyddiwyd eu safleoedd nhw i gynnal dosbarthiadau meistr, hefyd wedi cymryd rhan.

Cafodd Criw Celf Blwyddyn 9 Sir Ddinbych y cyfle i fynd ati gyda Gwobr Gelf fel rhan o’r Criw Celf eleni. Rhoddwyd cefnogaeth ychwanegol i hwn gan Gyngor Sir Ddinbych; nid yw wedi bod yn bosib i ALl eraill gynnig y ddarpariaeth hon. Mae’r holl ALl wedi dangos parodrwydd i gynnig Gwobr Gelf a byddant yn archwilio’r posibilrwydd o ddarparu’r wobr hon ledled rhanbarth gogledd Cymru yn y dyfodol.

Fe wnaethom drefnu arddangosfeydd o waith celf aelodau, ymweliadau â stiwdios yn ogystal â gwibdeithiau ac ymweliadau ag orielau. Fe wnaeth Criw Celf Sir y Fflint, er enghraifft, drefnu ymweliadau ag oriel y Tate Liverpool a’r Bluecoat Gallery ar gyfer yr aelodau a’u teuluoedd. Yn ystod yr ymweliadau, cynhaliodd Cydlynnydd y Criw Celf sesiwn ‘Gweithdy mewn Sach’, gan fynd â deunyddiau celf gydag ef/hi i greu darnau o gelf mewn adwaith i’r arddangosion a’u profiadau yn y lleoliadau.

Wrth weithio tuag at gyflawni amcanion craidd y Criw Celf, mae ein rhaglen o ddosbarthiadau meistr, ymweliadau stiwdio/oriel ac arddangosfeydd wedi gwella arfer celfyddydol a sgiliau’r cyfranogwyr trwy gynnig rhaglen o weithgareddau amrywiol a gweithio mewn ffordd ganolbwyntiedig a dwfn. Fel dywedodd un o’r rhieni…

“[Mae fy merch wedi elwa] yn fawr. Gan fod maint y dosbarth yn llai nag yn yr ysgol, bod amrywiath o dechnegau’n cael eu defnyddio, deunyddiau gwahanol, a bod mwy o amser di-dor i gyflawni pethau – mae [Criw Celf] wedi rhoi syniad cwbl newydd iddi o’r hyn sy’n bosib mewn celf.” (Rhiant)

Ategwyd hyn hefyd gan nifer o’r artistiaid sy’n cyflwyno’r sesiynau, nifer ohonynt yn nodi caffaeliad a datblygiad sgiliau newydd yn arfer celf y bobl ifanc…

“[Mae] pobl ifanc yn elwa o gael sylw dros gyfnod o amser sy’n ennyn hyder a sgiliau ynddynt, a pherthynas gydag unigolion creadigol eraill.” (Artist)

Mae ein haelodau’n mynegi’r farn hon hefyd, gyda’r adborth cyffredinol a gasglwyd yn cyfeirio at lefel sgiliau celf uwch a gwell amrywiaeth o ffurfiau celf yn cael eu harchwilio a’u datblygu…

“Prif ddeilliant bod yn aelod o’r Criw Celf i mi’n bersonol yw fy mod wedi datblygu fy sgiliau celf ac mae wedi gwneud i mi gredu ynof fy hun ac yn fy nghelf.” (Aelod o’r Criw Celf)

Yn ôl adborth gan rieni, aelodau ac athrawon, dywedwyd yn gyson bod hyder yn cynyddu. Mae nifer o ddisgyblion Bl. 9 wedi nodi bod Criw Celf wedi bod yn allweddol wrth iddynt benderfynnu dilyn celf yn bwnc tgau.

Trwy ein gweithgareddau cyflwynwyd ein haelodau i yrfaoedd creadigol; mae cyfarfod a gweithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid proffesiynol ynddo ei hun wedi eu cyflwyno i alwedigaethau a dewisiadau gyrfaol posib. Rydym hefyd wedi cynhyrchu adran ‘Gyrfaoedd yn y Byd Celf’ ar ein gwefan (mewn partneriaeth gyda Gyrfa Cymru) er mwyn trosglwyddo gwybodaeth mwy penodol am rolau, cyflogau, hyfforddiant, sgiliau, a chymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y sector celf.

Rydym yn awyddus i sicrhau cynnydd ein cyfranogion ac yn anelu at hwyluso eu hymrwymiad a’u hastudiaeth o gelf yn barhaus. Rydym wedi trosglwyddo aelodau’r Criw Celf sy’n gadael (diweddd bl. 9 ym mis Gorffennaf 2015) at ein prosiect partner, Portffolio, mewn ardaloedd ble mae’r ddarpariaeth hon ar gael. Yng Ngwynedd eleni, derbyniasom gais gan gyn aelod o’r Criw Celf ar gyfer swydd Cynorthwyydd Criw Celf. Roedd yr ymgeisydd yn un o aelodau gwreiddiol y Criw Celf ac rydym yn edrych ymlaen at ei gynnwys yn ein gwaith yn 2016/17…

“Bum yn aelod o’r clwb am bedair blynedd yn y gorffennol ac rwyf wedi elwa’n fawr o’r profiad, felly, rwy’n credu y bydd hyn yn gyfle i mi gyfrannu. Rwyf wedi parhau i astudio celf, a byddaf yn canolbwyntio ar hyn mewn Cwrs Sylfaen Celf y flwyddyn nesaf.” (Cyn aelod ac ymgeisydd ar gyfer swydd Cynorthwyydd Celf)

I gloi, mae 2015/16 wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r Criw Celf; mae’r cynllun wedi gwella arfer a sgiliau celfyddydol, mae wedi datblygu dealltwriaeth o yrfaoedd yn y celfyddydau ac wedi hwyluso dewisiadau’r cam nesaf i aelodau presennol. Mae’r Criw Celf wedi gwella hyder a helpu uchafu dyheadau ei haelodau. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r prosiect ymhellach y flwyddyn nesaf, naw mlynedd ers ei sefydlu yng Ngwynedd yn 2007/08. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar gryfhau’r broses ricriwtio, gan ddal ati i fonitro a gwerthuso a chysylltu â chymaint o artistiaid ifanc ag sy’n bosib; gan gynnig sylfaen gadarn iddynt yn y celfyddydau gweledol a chymhwysol.

Ffilm gan Griw Celf Sir y Fflint:
https://www.youtube.com/watch?v=i3IZ4SgBLQ0&feature=youtu.be

Cafodd Elain Mia Jones a’i Ffrindiau sylw yn Ffilm Gwynedd Greadigol:
https://www.youtube.com/watch?v=0Y0×7WWEKb8