Rhieni!… Enwebwch eich Plentyn i Criw Celf Gwynedd...

Rhieni!… Enwebwch eich Plentyn i Criw Celf Gwynedd...

Mae Criw Celf yn cynnig rhaglen o hyfforddiant arbenigol i blant sy’n fwy abl a thalentog ym maes celf weledol. Drwy ein rhaglen o ddosbarthiadau meistri arbennig, gydag artistiaid proffesiynol, mae aelodau Criw Celf yn cael …

  • Mynediad i addysg celf ychwanegol, dwys o ansawdd uchel
  • Meithrin a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o gelf weledol a chrefft
  • Dysgu am yrfaoedd ym maes celf
  • Cydweithio ag artistiaid i ddatblygu eu potential a’u gallu
  • Arddangos eu gwaith celf mewn oriel broffesiynol

Enwebu eich plentyn…

Fel rhiant gallwch enwebu eich plentyn os ydynt yn cychwyn Blwyddyn 7 ym Medi 2016 i ymaelodi â’r rhaglen hyfforddiant cyffroes hwn. Gyrrwch ddetholiad o’u gwaith celf atom er ystyriaeth erbyn 10yb 19 o Awst 2016. Postiwch y canlynol i’r cyfeiriad isod…

  • Hunan bortread 2D neu 3D wedi ei greu gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau (2D dim mwy na maint A3).
  • Darlun 2D o’r olygfa drwy unrhyw ffenestr gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau (dim mwy na maint A3).
  • Paragraff byr yn egluro pam yr hoffent ymaelodi â Chriw Celf dim mwy na 50 gair).

Gwnewch yn siŵr bod enw ac oed, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref a rhif ffôn cartref ar gefn pob darn o waith. Gallwch lawr-lwytho labeli oddi yma os yr hoffech. Cofiwch mai gallu naturiol y plentyn yr ydym angen ei weld wrth asesu’r gwaith celf. Mae’n hanfodol bwysig nad yw’r plentyn yn derbyn cymorth oedolyn nag artist i greu eu gwaith.

Bydd panel o artistiaid yn dethol y plant llwyddiannus ac fe fyddwn yn eu gwahodd i fynychu rhaglen o ddosbarthiadau meistri fydd yn cychwyn ym mis Medi/Hydref 2016; cychwyn da i’w blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd!

Cyfeiriad a mwy o wybodaeth…

Criw Celf Gwynedd, Archifdy Caernarfon,
Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon,
Gwynedd. LL55 1SH

Rob Jones: 07711 269 202 / robertowenjones11@gmail.com / Lawr-lwythwch ein taflen: Taflen Rhieni

Noder: Bydd ffi aelodaeth o £35 yn daladwy i’r plant llwyddiannus.

Bydd Criw Celf Gwynedd yn gwahodd ceisiadau gan blant o Bl. 8 & 9 y tymor nesaf yn ogystal. Cadwch lygad allan am y manylion diweddaraf ar ein gwefan.