Chwilio am waith achlysurol?

Chwilio am waith achlysurol?

Rydym yn Edrych am Gymorthyddion Celf

Rydym yn awyddus creu pwll o gymorthyddion celf i gynorthwyo yn ystod gweithdai celf i blant a phobl ifanc. Bydd gofyn i’n cymorthyddion helpu gyda gosod a chlirio offer, cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda’u gwaith, cefnogi ein hartistiaid yn ystod gweithgareddau, cofnodi’r sesiynau drwy gyfrwng ffotograffiaeth, cadw cofrestr ayb. Mae Criw Celf yn cynnal gweithdai ar draws gogledd Cymru ac rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan unigolion creadigol sy’n brofiadol o weithio â phlant a phobl ifanc er ein hystyriaeth. Telir ffi o £80 y gweithdy. Cynigir hyfforddiant diogelu plant.

Dyddiad cyflwyno datganiad o ddiddordeb: 9yb, 19.8.16

Gyrrwch e-bost i gyflwyno’ch hun ac atodwch gopi o’ch CV

Byddwn yn cadw eich manylion ar ffeil ac yn cysylltu os y bydd cyfle ar gael i chi.

Cerwch i dudalen Cyswllt ar ein gwefan i gael manylion y pwynt cyswllt ar gyfer y sir ble yr hoffech weithio.

Byddwn yn cadw eich manylion ar ffeil ac fe fyddwn mewn cyswllt os y bydd cyfle yn codi ar eich cyfer.