Lluniad gyda Tim Pugh

Lluniad gyda Tim Pugh

Artist amgylcheddol yw Tim Pugh a weithiodd gyda Criw Celf Indigo yn Wrecsam yn ystod mis Chwefror i greu addurniadau yn seiliedig ar natur a ffurf naturiol.

Eu tasg oedd addurno’r goeden gan ddefnyddio cardfwrdd, offer tynnu llun a chotwm, wrth ganolbwyntio ar greu siapiau haniaethol yn seiliedig ar gregyn a deunyddiau naturiol. Yn ystod y sesiwn hon, dysgodd y grŵp am dôn a chyfansoddiad o fewn arlunio.