Arddangosfa Trysorau: Criw Celf Gwynedd

Arddangosfa Trysorau: Criw Celf Gwynedd

TRYSORAU

Bydd arddangosfa fawreddog Criw Celf Gwynedd yn agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd am 2yp ar ddydd Sadwrn 25 o Orffennaf. Hon fydd arddangosfa gelf olaf Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn ei safle bresennol cyn iddynt symud i’w cartref newydd yn hen Blas yr Esgob ym Mangor yn nhymor yr Hydref 2015.

Arddangosfa yn cyflwyno gwaith celf wedi ei wneud gan bobl ifanc o Wynedd yw Trysorau. Mae’r bobl ifanc hyn yn aelodau o Griw Celf, a buont yn mynychu gweithdai dosbarth meistr gydag artistiaid proffesiynol ac yn archwilio a dehongli’r thema ‘trysorau’.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf cyflwynwyd y bobl ifanc i ystod eang a chyfoethog o fathau o gelfyddyd, er enghraifft paentio, cerameg, gwaith gwydr, gwaith tri dimensiwn, gwehyddu a chreu gemwaith. Mae detholiad o’r gwaith celf a grëwyd i’w weld yn yr arddangosfa ochr yn ochr â gwaith yr artistiaid proffesiynol a fu yn eu tiwtora.

Nod Criw Celf yw datblygu a meithrin talent ifanc yn y celfyddydau gweledol trwy ddarparu gweithdai a dosbarthiadau meistr. Mae’n rhoi cyfle i artistiaid gweledol y dyfodol weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol mewn amrywiaeth o wahanol orielau a lleoliadau. Bu’r aelodau yn gweithio mewn canolfannau megis Oriel Plas Glyn-y-Weddw ac Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, a Phlas Tan y Bwlch.

Mae 6 grŵp Criw Celf yng Ngwynedd: Criw Celf 1 (blwyddyn 8); Criw Celf 2 (blwyddyn 7); Criw Celf Bach Bangor (7 – 11 oed); Criw Celf Bach Dwyfor (7 – 11 oed); a Chriw Celf Bach Harlech (7 – 11 oed). Ym mis Medi 2015 fe fydd Criw Celf ychwanegol yn cychwyn ar gyfer oedran blwyddyn 9. Yn ystod 2014/15 bu i Griw Celf Gwynedd weithio â dros 80 o blant a cynnal 52 o sesiynau creadigol.

Dewch draw i weld yr arddangosfa fydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 25 o Orffennaf a 5 Medi 2015. Mynediad am ddim.

Lawr-lwythwch poster yr arddangosfa am yr amseroedd agor a’r cyfeiriad: Poster