Criw Celf Bach y Rhyl yn gwirioni ar wyddbwyll

Criw Celf Bach y Rhyl yn gwirioni ar wyddbwyll

Mae’r artist Lisa Carter wedi bod yn gweithio gyda’n grŵp Criw Celf Bach yn y Rhyl ers sawl mis bellach ac wedi bod yn defnyddio nifer o wahanol gyfryngau efo nhw. Ddydd Sadwrn 16 Mai cynhaliwyd twrnamaint gwyddbwyll mawr yn awditoriwm Neuadd y Dref, y Rhyl ac roedd ein haelodau yn ddigon lwcus i gael mynd i mewn (yn ddistaw, ddistaw bach) i weld y twrnamaint. Ar ôl cyrraedd yn ôl yn yr ystafell ddosbarth (a gallu siarad eto!), edrychodd y grŵp ar waith nifer o artistiaid gwahanol sydd wedi defnyddio byrddau gwyddbwyll, ffigurau gwyddbwyll a gridiau yn eu gwaith gan fynd ati wedyn i ddyfeisio eu darnau celf eu hunain wedi eu hysbrydoli gan wyddbwyll. Mae’r gwaith terfynol yn wych ac mae’r grŵp yn awyddus iawn i barhau â’r thema. Byddwn yn creu bwrdd gwyddbwyll celf enfawr yn ein gweithdy nesaf… gwyliwch y gofod hwn!