Hannah Coates, Sir Ddinbych, Blwyddyn 7, 25 Ebrill

Hannah Coates, Sir Ddinbych, Blwyddyn 7, 25 Ebrill

Daeth aelodau Blwyddyn 7 at ei gilydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar 25 Ebrill ac archwilio arddangosfa Fritz Maierhofer a oedd yn cael ei arddangos yn y ganolfan. Anogodd Hannah y grŵp i edrych ar y ffurfiau a’r syniadau a ddefnyddir gan Maierhofer a datblygu’r rhain yn eu gwaith eu hunain. Yn ôl yn yr Ystafell Addysg, roedd gan y grŵp fynediad i amrywiaeth gwych o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, y gwnaethant ddefnydd rhagorol ohonynt, gan greu amrywiaeth o ddarnau gemwaith cerfluniol.