Catrin Webster, Sir Ddinbych Blwyddyn 8, 9 Mai

Catrin Webster, Sir Ddinbych Blwyddyn 8, 9 Mai

Arweiniodd yr artist Catrin Webster ei hail ddosbarth meistr mewn peintio olew gyda’n grŵp blwyddyn 8, y tro hwn yn canolbwyntio ar dirweddau. I gyd-fynd â phen-blwydd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol eleni, rydym yn canolbwyntio ar Fryniau Clwyd, gyda phob aelod o’r grŵp yn cynhyrchu dau baentiad olew a lluniad inc o’r bryniau. Fe wnaethant hyd yn oed ymestyn eu cynfasau eu hunain ac maent wedi cynhyrchu rhai darnau anhygoel o waith, bydd rhai ohonynt i’w gweld ym Mharc Gwledig Loggerheads ym mis Gorffennaf (gweler DIGWYDDIADAU i gael rhagor o wybodaeth am hyn).