Grŵp Blwyddyn 8

Grŵp Blwyddyn 8

Cafodd blwyddyn 8 hefyd gyfle i weithio efo Karen Williams, ond, erbyn hynny, roedd yr arddangosfeydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun wedi newid – yn ffodus i ni, gemwaith oedd yno eto, ac felly ysbrydolwyd y grŵp gan arddangosfa wych Pamela Rawnsley, ac mi fuodd y grŵp yn astudio ei gwaith hi yn yr oriel cyn ei throi hi am yr ystafell addysg i wneud eu darnau eu hunain. Fe weithiodd pawb yn galed iawn ac mae’r gemwaith a gafodd ei gynhyrchu yn odidog.