Criw Celf Magenta Wrecsam

Criw Celf Magenta Wrecsam

Yn ystod sesiwn yr wythnos hon dan arweiniad yr arlunydd gweledol, Rebecca F Hardy buon ni’n ymchwilio i drysorau naturiol y Ddaear sef creigiau, mwynau a gemfeini. Gan ganolbwyntio ar ffurfiau a chyfansoddiadau geometrig, buon ni greu darnau 2D drwy ddefnyddio golosg a phrintio bloc ag inc.