Arddangosfa Criw Celf Gwynedd 2015

Arddangosfa Criw Celf Gwynedd 2015

Mae blwyddyn brysur a chreadigol ar y gweill i griwiau celf Gwynedd!

Eleni mae’n holl aelodau’n gweithio i’r thema ‘trysorau’. Bydd yr artistiaid proffesiynol yn dyfeisio a chreu gweithdai a dosbarthiadau meistri amrywiol o dan y thema yma gan greu gweithiau i’w harddangos mewn arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Bydd detholiad o weithiau’r plant a’r artistiaid sydd wedi arwain sesiynau i ni yn cael ei gynnal ym Mangor rhwng 25 o Orffennaf ac 29 Awst, 2015.

Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd i lwyfannu arddangosfa o waith artistiaid ifainc Gwynedd. Braf fydd gallu rhannu gweithiau ac arddangos doniau ein creawdwyr ifanc! Bydd mwy o wybodaeth am yr arddangosfa yn cael ei gyhoeddi maes o law.

01286 679721 / celf@gwynedd.gov.uk