Taith Bws Helfa Gelf

Taith Bws Helfa Gelf

Ar ddiwedd mis Medi wnaeth Criw Celf Gwynedd, Conwy ac Môn mynychu ar daith fws Helfa Gelf o amgylch rhai o’r stiwdios ac arddangosfeydd artist Gwynedd.

Fe wnaethom ni dechrau’r diwrnod yn Oriel Pendeitsh yng Nghaernarfon lle arweinir artist Vivienne Rickman-Poole dosbarth meistr gwneud marciau. Wnaeth aelodau Criw Celf a’u teuluoedd creu llyfrau braslunio eu hunain wedyn fe wnaethant nhw ei lenwi trwy ddefnyddio technegau lluniadu a oedd Viv wedi dangos iddynt. Trwy ddefnyddio gwahanol fathau o siarcol a ysbrydolwyd gan waith celf o’u cwmpas fe wnaeth aelodau mwynhau arbrofi yn eu llyfrau braslunio newydd.

Ar ôl y sesiwn hon wnaethom ni parhau ar ein taith i Barc Glynllifon. Ar ôl ychydig o ginio yn y Black Cat Café wnaeth aelodau Criw Celf ymweld ag un o’r stiwdios yng Nglynllifon o’r enw Creu. Yno cawsom ein croesawu gan artistiaid Laura Cameron, Sioned Hywel a Sarah Key. Rhoddodd Laura a Sioned sgwrs ddiddorol iawn am y gwaith y maent yn ei gynhyrchu a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. Cymerodd yr aelodau Criw Celf y cyfle hwn i ofyn cwestiynau a hefyd i edrych ar ddarnau unigol y mae’r artistiaid wedi cynhyrchu. Yna aeth Sarah Key ymlaen i redeg dosbarth meistr arlunio a phaentio. Wnaeth aelodau Criw Celf a’u teuluoedd fwynhau’r dosbarth meistr yma yn ofnadwy.

Unwaith oeddem ni yn ôl ar y bws wnaethom ni teithio i stiwdio Steve Gee lle cawsom groeso cynnes a chael edrych o gwmpas ei gartref a stiwdio. Fe wnaeth holl aelodau Criw Celf mwynhau gweld amgylchedd gwaith artistiaid proffesiynol. Lle bynnag yr oeddech yn edrych oeddech yn gallu weld delweddau ysbrydoledig, gwaith celf orffenedig a hefyd yn gweithio ar y gweill.

Fe wnaethom ni gorffen y prynhawn yn Bocs yng Nghaernarfon lle wnaethom ni cael golwg ar rai o’r artistiaid a oedd yn arddangos eu gwaith yno.