Criw Celf Bach Conwy - Mae lleoedd yn dal ar gael!

Criw Celf Bach Conwy - Mae lleoedd yn dal ar gael!

Clwb celf i blant o ogledd Cymru sydd rhwng 7 a 11 mlwydd oed yw Criw Celf Bach. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i blant i greu celf yng nghwmni artistiaid proffesiynol yn ystod gweithdai celf misol. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i arbrofi â deunyddiau celf, technegau a themâu mewn modd chwareus. Bydd deunyddiau celf yn cael eu darparu. Dewch i arbrofi, mwynhau a dysgu!

Ffi aelodaeth Criw Celf Bach 2014/15 yw £35 am 10 sesiwn. Sieciau’n daladwy i “Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy” os gwelwch yn dda. Ffoniwch 01492 575572 neu e-bostiwch sian.young@conwy.gov.uk am fwy o wybodaeth. I archebu lle: Cwblhewch a postiwch y ffurflen archebu a’ch siec am £35.

Rhaglen Criw Celf Bach