Yn galw fandaliaid celfyddydol!!
Isio dangos sut beth ydi byw heddiw i chi?
Awydd bod yn rhan o greu gwaith celf at arddangosfa fydd yn teithio orielau hyd a lled Cymru yn 2018?
Mae Rhodri Owen, artist prosiect I’r Byw, angen eich help chi i newid darn o’i ddodrefn newydd, crefftus – sgriffinio, torri mewn, printio, paentio, graffiti, lapio, addurno, malurio neu newid ei siâp? Mae pob math o bethau’n bosib!
Gweithdy gwahanol 24 Awst 2017 rhwng 10am – 4pm yn Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT gyda Rhodri Owen ac Rebecca Hardy Griffiths, artist Criw Celf. Dewch a bocs bwyd.
Ffilmir y gweithdy gan gwmni teledu proffesiynol ar gyfer yr arddangosfa, ac efallai clipiau ar y we e.e. ar YouTube.
Cefnogir prosiect I’r Byw a Criw Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru yma
Cofiwch archebu lle ar gyfer y gweithdy hwn, dyddiad cau 12yp ar 16 o Awst! 01286 679721