Sesiwn Adlewyrchu
Dyma weithdy arbennig ychwanegol wedi ei drefnu ar gyfer ein haelodau i’w fwynhau yn ystod y gwyliau haf. Bydd yr artist Dr Maria Hayes yn cynnal sesiwn celf a fydd yn adlewyrchu ar yr hyn y mae’r plant wedi ei ddysgu yn ystod y gweithdai celf blaenorol. Bydd Maria yn cynnig nifer o weithgareddau celf i ddysgu a mwynhau. Dewch i brofi awyrgylch arbennig Storiel, oriel newydd Gwynedd, a chreu celf yng nghwmni artist proffesiynol. Mae angen archebu o flaen llaw ar gyfer y gweithdy hwn, gweler y ffurflen archebu yma.
Am ddim! Gwisgwch ddillad addas a dewch a phecyn bwyd i ginio.
11am-3pm 15 / 8 / 16
Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT
Gwefan Maria – www.mariahayes.info